Gwlad Arabaidd yng Ngogledd Affrica, rhan o'r Dwyrain Canol, yw Gweriniaeth Arabaidd yr Aifft neu'r Aifft. Er bod y wlad yn Affrica, cyfrifir Gorynys Sinai, i'r dwyrain o Gamlas Suez, yn rhan o Asia. Mae rhan fwyaf o bobl yr Aifft yn byw ar lannau Afon Nîl. Ond mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn rhan o ddiffeithdir y Sahara, ac felly â dwysedd poblogaeth isel iawn.
Arwyddair: مصر أمّ الدنيا
Math: gwladwriaeth sofran, Gwlad drawsgyfandirol, un o wledydd môr y canoldir, gwlad
Enwyd ar ôl: Ptah, Mizraim
Prifddinas: Cairo
Poblogaeth: 114,535,772
Sefydlwyd: 28 Chwefror 1922 (Annibyniaeth o Loegr) · 18 Mehefin 1953 (Datganiad o annib.)